Mae dwy chwaer wedi codi dros £2,000 ar gyfer Ysbyty Bronglais, drwy gynnal digwyddiad er cof am anwylyd.
Cododd y chwiorydd Beca a Mali James gyfanswm o £2,061.90 er cof am eu modryb, Peta Romaine, trwy fore coffi a gynhaliwyd ym mis Medi 2025. Rhoddwyd yr elw o'r bore coffi i Uned y Colon a’r rhefr yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Dywedodd Beca a Mali eu bod am roi yn ôl i'r ward oherwydd y "gofal rhagorol" a gafodd eu modryb wrth gael triniaeth canser.
"Fe wnaethon ni drefnu bore coffi er cof am ein modryb Peta Romaine," ychwanegodd y chwiorydd. "Hoffem ddiolch i Nerys Thomas a'r tîm am eu holl gefnogaeth. Cafodd Peta ofal rhagorol."
Dywedodd Paige Denyer, swyddog cymorth codi arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
"Diolch i Beca a Mali am eu hymdrechion gwych i godi dros £2,000 ar gyfer yr Uned yn Ysbyty Bronglais.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion."