Yn y llun uchod: Tîm Gwasanaethau Therapi Ymddygiad Dialectig.
Mae DBT yn ymyriad arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion sy’n profi meddyliau hunanladdol cronig ac ymddygiadau hunan-niweidiol.
Ar 30 Mai 2026, bydd aelodau o dîm DBT a chefnogwyr yn cychwyn ar daith 7.2km drwy’r Bannau Brycheiniog prydferth, gan gynnwys pedair sgwd ysblennydd. Disgwylir i'r her gymryd tua 3-4 awr.
“Nod craidd DBT yw helpu pobl i adeiladu bywyd gwerth ei fyw, hyd yn oed yn wyneb adfyd sylweddol. Rydym yn ffodus i gael tîm DBT hyfforddedig a phrofiadol iawn, sy'n cynnwys ymarferwyr ymroddedig sy'n teimlo'n freintiedig i weld cleientiaid yn ffynnu trwy'r rhaglen hon.
“Mae hyn yn fwy na dim ond taith gerdded; mae’n gyfle pwerus i ddod ynghyd at achos ystyrlon a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. P’un a ydych yn gwisgo’ch esgidiau neu’n cefnogi o’r ochr, mae eich rhodd neu nawdd yn rhoi hwb nid yn unig i’r daith, ond yr effaith a gaiff Therapi Ymddygiad Dialectig.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Am her gyffrous! Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Os hoffech chi ymuno yn yr hwyl a bod yn rhan o’r achos anhygoel hwn, cysylltwch â Morgan ar Morgan.Thomas2@wales.nhs.uk.
Gall y rhai sy’n dymuno cefnogi’r tîm gyfrannu drwy eu tudalen JustGiving:
https://www.justgiving.com/team/dialectical-behaviour-therapy