Diolch i'r rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu chwe Chadair Gwely Dydd Buddy gwerth dros £7,500 sy'n galluogi rhieni a gofalwyr i gael arhosiad cyfforddus gyda'u plant ar Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais.
Mae Cadeiriau Gwely Dydd Buddy yn gadeiriau ymlaciol sy'n darparu man eistedd i rieni, gofalwyr ac aelodau'r teulu gysgu a gorffwys, gan eu galluogi i ofalu am blant a phobl ifanc o ochr eu gwely.
Dywedodd Bethan Hughes, Rheolwr y Ward: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu chwe gwely cadair newydd.
“Mae'r cadeiriau yn eitem werthfawr wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf/teulu gan nad yw rhieni, gofalwyr ac aelodau'r teulu yn gallu aros dros nos gyda'u plant hebddynt ac ni fyddai gan gleifion seddi addas pan fyddant allan o'r gwely.
“Rydym wedi gallu ariannu'r gwelyau hyn diolch i ymdrechion codi arian pedwar aelod o dîm Ward Angharad, Meinir Morris, Sian Davies, Bethan Fitz Griffiths a Rachel Davies.”
Trefnodd Meinir a Sian ddigwyddiad codi arian disgo yn y 60au, 70au ac 80au, a chymerodd Bethan a Rachel ran yn Hanner Marathon Llanelli ddydd Sul 24 Medi.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”