Neidio i'r prif gynnwy

Bydd setiau teledu newydd yn dod â chysur i gleifion cemotherapi

Yn y llun: Staff Uned Ddydd Cemotherapi gydag un o'r setiau teledu newydd

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu dau deledu newydd gwerth dros £1,000 ar gyfer y man aros i gleifion a'r ystafell driniaeth yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Marie Williams, Uwch Brif Nyrs Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT): "Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r setiau teledu newydd ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi.

"Gall cael cemotherapi fod yn brofiad emosiynol, ac mae'r amser a dreulir yn aros am driniaeth yn aml yn gallu ychwanegu at bryder ac anghysur cleifion.

"Mae clinigau yn cael eu cynnal o fewn yr Uned Ddydd Cemotherapi ac weithiau gallant or-redeg. Bydd darparu mynediad i'n cleifion at deledu yn gwneud eu profiad yn fwy cyfforddus ac yn tynnu eu sylw wrth iddynt aros am eu hapwyntiad. Gall presenoldeb teledu wneud i'r man aros deimlo'n fwy deniadol ac yn llai clinigol.

"Bydd darparu teledu i gleifion yn yr ystafell driniaeth hefyd yn gwneud eu profiad yn fwy cyfforddus ac yn tynnu eu sylw wrth iddynt gael cemotherapi."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: