Mae criw o artistiaid a gwneuthurwyr o Geredigion yn cynnal cyfres o arddangosfeydd celf i godi arian ar gyfer Ward Plant Angharad Ysbyty Bronglais.
Bydd y bobl greadigol o Oriel y Bae yn Aberystwyth yn cynnal saith sioe artistiaid a gwneuthurwyr trwy gydol y flwyddyn, yn Aberteifi ac Aberystwyth, gyda’r sioe gyntaf ar 29 Mawrth.
Dywedodd y trefnydd a pherchennog yr oriel Jeni Pain y byddai digon o gyfleoedd i’r cyhoedd gyfrannu at yr achos, trwy duniau casglu yn eu horiel barhaol yn y dref glan môr, yn ogystal ag yn y digwyddiadau arbennig.
Ychwanegodd: “Rydym yn bwriadu cynnal o leiaf un tombola codi arian gyda gwobrau wedi’u rhoi gan ein hartistiaid. Bydd ein cardiau Nadolig yn cael eu gwerthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda chyfraniad o 50%.”
Dywedodd Jeni bod yr artistiaid, bob blwyddyn, yn penderfynu ar elusen i’w chefnogi am y flwyddyn i ddod ac eleni maen nhw wedi dewis Ward Plant Angharad ym Mronglais.
Esboniodd: “Mae’r ward hon yn agos at galonnau ein hartistiaid ac rydym am gefnogi’r gwasanaeth lleol hwn.”
Mae dyddiadau’r sioeau fel a ganlyn: