Mae rhodd yn eich Ewyllys i'ch Elusen GIG yn ddiolch a all bara am byth
Mae Rhoddion mewn Ewyllysiau yn cael effaith barhaol: boed hynny ar gyfer ein staff GIG gwych, rhoi cysur a gofal ychwanegol i gleifion, darparu offer sydd ar flaen y gad, neu ysgogi ymchwil arloesol er budd cenedlaethau’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am yr effaith enfawr y mae eich rhoddion a’ch cymynroddion yn ei chael, ewch i dudalen Eich Effaith.
Pan fyddwch chi'n gadael rhodd yn eich Ewyllys i'ch elusen GIG, rydych chi'n dweud diolch mewn ffordd a fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol am amser hir ar ôl i chi fynd.
Ar ôl gwneud trefniadau i adael rhodd i deulu, ffrindiau neu anwyliaid yn eich ewyllys, mae cymynrodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ffordd o sicrhau y gallai eraill dderbyn cymorth gennym ni ymhell i’r dyfodol.
Camsyniad cyffredin yw bod yn rhaid i gymynrodd fod yn swm enfawr o arian. Nid yw hyn yn wir. Waeth pa mor fach neu fawr yw eich rhodd gallwch fod yn sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth i'n gwaith.
Os penderfynwch gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda yn y modd hwn, rhaid i chi yn gyntaf benderfynu pa fath o rodd yr hoffech ei adael - cymynrodd ariannol (swm sefydlog o arian) neu gymynrodd weddilliol (canran o'ch ystâd). Rydym yn eich cynghori i ymgynghori â chyfreithiwr ar yr hyn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau penodol chi.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfreithiwr i ddrafftio eich ewyllys i sicrhau bod geiriad eich ewyllys yn bodloni eich dymuniadau. Bydd drafft wedi'i ddrafftio'n gywir yn sicrhau y bydd eich dymuniadau'n cael eu parchu.
Yn aml gofynnir i ni a ellir defnyddio rhoddion i ariannu gwaith penodol neu brynu darn arbennig o offer. Ymdrechwn i gadw at ddymuniadau ein cefnogwyr bob amser ond cofiwch erbyn i’ch ewyllys ddod yn effeithiol mae’n bosibl iawn y bydd y dirwedd gofal iechyd wedi newid o ran offer a thriniaethau. Byddem felly yn gofyn i chi gyfrannu at gronfa benodol yn hytrach na diben penodol fel bod eich rhodd yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau bosibl.
Mae rhagor o wybodaeth am adael cymynrodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, neu i ofyn am becyn rhoddion mewn ewyllysiau, Cysylltwch â ni (agor mewn dolen newydd)