Mae ein codwyr arian wedi gwneud popeth o ddringo mynyddoedd a rhedeg marathonau i dawelwch noddedig i bobyddion cacennau i godi arian! I ymuno â’n byddin o godwyr arian, dilynwch y camau syml hyn…
Os hoffech godi arian ar gyfer eich elusen GIG, y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i ni eich bod yn bwriadu codi arian, a sut y byddwch yn codi arian.
Mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a’ch helpu cymaint ag y gallwn:
Rhif ffôn: 01267 239815
E-bost: Codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk
Mae'r camau nesaf yn cynnwys hyrwyddo'ch codi arian, talu'ch arian i mewn, a rhannu'ch stori. Mae ein pecyn cymorth codi arian (agor mewn dolen newydd) yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd y camau hyn, yn ogystal â digon o syniadau codi arian ac ysbrydoliaeth. Lawrlwytho fersiwn argraffadwy yma (agor mewn dolen newydd).