Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrannwch

Diolch am gefnogi #EichElusenGIG! 

Gallwch chi gyfrannu i ni…

  • Ar-lein: Gallwch gyfrannu'n hawdd ac yn gyflym yn https://hyweldda.enthuse.com/profile (agor mewn dolen newydd)
     
  • Trwy tecst: tecstiwch LOVENHS i 70085 i gyfrannu £5. Neu cyfrannwch unrhyw swm yr hoffech drwy tecstio LOVENHS a'r swm yr hoffech ei gyfrannu. Er enghraifft, tecstiwch LOVENHS 3 i gyfrannu £3, LOVENHS 10 i gyfrannu £10, ac ati.
     
  • Drwy'r post:  Rhaid i bob siec fod yn daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’, a chofiwch gynnwys ffurflen datganiad Cymorth Rhodd (agor mewn dolen newydd) wedi’i llofnodi os ydych yn drethdalwr yn y DU fel y gallwn hawlio rhyddhad treth yn ôl ar eich rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi (gweler isod am fwy o wybodaeth).

    Anfonwch eich ffurflenni wedi’u llenwi a siec at: Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Peidiwch ag anghofio cynnwys eich manylion cyswllt a pheidiwch ag anfon arian drwy'r post.
     
  • Trwy BACS: I gyfrannu trwy drosglwyddiad BACS ffoniwch ni ar 01267 239815 a gallwn roi'r manylion sydd eu hangen arnoch.


Cofiwch roi gwybod i ni os yw eich rhodd wedi'i bwriadu ar gyfer gwasanaeth neu adran benodol. Er enghraifft, os ydych yn talu gyda siec, rhowch enw’r ysbyty, ward neu adran yr hoffech eu cefnogi ar y cefn.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am wneud cyfraniad, Cysylltwch â ni (agor mewn dolen newydd).

 

Rhoi’n Rheolaidd
 

Trwy wneud cyfraniad misol bach i’ch elusen GIG gallwch ddarparu cefnogaeth barhaus i’ch GIG mewn ffordd sy’n fforddiadwy a chyfleus.

Er enghraifft, mae rhodd o £3 y mis i’r elusen yn cyfateb i ddim ond 10c y dydd, ond bydd y rhodd hon yn cael effaith fawr ar brofiadau cleifion, eu teuluoedd a staff.

I sefydlu cyfraniad misol, ewch i'n Tudalen Enthuse (agor mewn tudalen newydd) a chofrestrwch ar gyfer rhoddion misol gan ddilyn y camau syml hyn:

1. O dan ‘Pa mor aml hoffech chi roi?’ dewiswch ‘Misol’

2. Dewiswch neu deipiwch y swm yr hoffech ei gyfrannu bob mis

3. Pwyswch ‘Nesaf’ a rhowch eich manylion i Enthuse.

Cofiwch, gallwch atal eich rhodd fisol unrhyw bryd – cliciwch yma am fwy o wybodaeth  (agor mewn tudalen newydd).

 

Logo Cymorth Rhodd

 

Rhoi hwb i'ch rhodd gyda Chymorth Rhodd


Mae CThEF yn gweithredu cynllun o’r enw Cymorth Rhodd sy’n caniatáu i elusennau hawlio treth cyfradd sylfaenol ar bob punt a roddir. Mae rhoi o dan Gymorth Rhodd yn golygu y gellir codi cymaint mwy o arian heb unrhyw gost ychwanegol i’n rhoddwyr: gallwch roi hwb o 25c i’ch rhoddion am bob £1 a roddir.

I fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd, rhaid i roddwyr fod yn drethdalwr yn y DU a gwneud datganiad cymorth rhodd. Mae codi arian ar-lein yn gwneud hyn yn hawdd i chi, felly y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw ticio blwch.

Os ydych yn postio eich rhodd, cofiwch hefyd gynnwys ffurflen datganiad Cymorth Rhodd (agor mewn dolen newydd) wedi'i llofnodi fel y gallwn hawlio rhyddhad treth yn ôl ar eich rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Dilynwch ni: