Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae fy rhodd yn cael ei gwario?

 

Pan fyddwch chi'n rhoi i Elusennau Iechyd Hywel Dda, mae eich haelioni yn cefnogi gwasanaethau'r GIG yn uniongyrchol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Bydd eich rhodd yn cael ei dyrannu i:

  • Cronfa benodol os ydych chi wedi dewis cefnogi ward, adran, gwasanaeth neu ysbyty penodol.
  • Ein cronfa amlbwrpas (a elwir yn gronfa Gwneud Gwahaniaeth) os nad ydych chi wedi nodi dewis – gan ein helpu i gefnogi'r meysydd mwyaf anghenus ar draws Hywel Dda.

Defnyddir pob rhodd uwchlaw ac y tu hwnt i gyllid craidd y GIG i wella gofal a llesiant cleifion, teuluoedd a staff.

 

Yr hyn a ariennir gennym

Rydym yn ariannu prosiectau ac eitemau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, megis:

  • Cysuron ychwanegol i gleifion
  • Yr offer meddygol diweddaraf
  • Amgylcheddau croesawgar i gleifion, ymwelwyr a staff
  • Mentrau hyfforddi, datblygu a llesiant staff
  • Ymchwil ac arloesi mewn triniaethau
  • Gofal gwell yn ein cymunedau lleol.

Mae gwariant yn dilyn canllawiau clir ynghylch yr hyn y gellir a'r hyn na ellir ei ariannu, gan sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario'n gyfrifol.

 
Sut mae penderfyniadau gwariant yn cael eu gwneud

Daw pob cais am gyllid gan staff a gyflogir gan y bwrdd iechyd ac fe'u hadolygir yn ofalus yn seiliedig ar y canlynol:

  • Canllawiau ynghylch yr hyn y gellir a'r hyn na ellir ei ariannu
  • Effaith ar ofal cleifion neu lesiant staff
  • Argaeledd cyllid.

Mae'r broses gymeradwyo fel a ganlyn:

  • Hyd at £10,000: Yn cael ei ystyried gan reolwr y gronfa (aelod uwch o staff o'r gwasanaeth perthnasol)
  • £10,000–£50,000: Yn cael ei ystyried gan yr Is-bwyllgor Cronfeydd Elusennol
  • Dros £50,000: Yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.

Bydd ceisiadau am gyllid dros £100,000 hefyd angen ystyriaeth a chymeradwyaeth yr Ymddiriedolwr Corfforaethol (sef bwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda).

 

Ein Pwyllgor Cronfeydd Elusennol

Diben y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yw gwneud a monitro trefniadau ar gyfer rheoli Cronfeydd Elusennol y Bwrdd Iechyd. Mae'r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yn sicrhau bod yr holl gronfeydd elusennol:

  • Yn cael eu defnyddio yn unol â dymuniadau rhoddwyr a gofynion cyfreithiol
  • Yn cael eu rheoli'n dryloyw ac yn effeithiol
  • Yn cael eu buddsoddi a'u gwario i wella gofal cleifion a chefnogaeth i staff.

Gallwch weld papurau'r pwyllgor, cylch gorchwyl a phenderfyniadau – gan gynnwys ar bob gwariant dros £50,000 – ar ein tudalen Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.

 

Tryloywder ac atebolrwydd

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda:

  • Yn elusen gofrestredig (Rhif 1147863)
  • Wedi'i rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau
  • Wedi cofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian, gan ymrwymo i godi arian cyfreithlon, agored, gonest a pharchus.

Rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar wefan y Comisiwn Elusennau yn manylu ar ein hincwm, gwariant ac effaith.

 
Gweld y gwahaniaeth a wnewch

Ewch i'n tudalen effaith, darllenwch ein newyddion diweddaraf, neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i weld sut mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol bob dydd.

Os oes gennych gwestiynau am sut mae eich rhodd yn cael ei gwario, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

 

Dilynwch ni: