Ydych chi'n barod i herio'ch hun fel erioed o'r blaen?
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 25 Hydref 2025 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer Taith Gerdded Tân Dan Draed Hywel Dda – profiad cyffrous lle byddwch chi'n cerdded yn droednoeth ar draws pum metr o gols 800°C. Mae'n ddiogel, yn fythgofiadwy, ac yn grymuso'n fawr.
P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n chwilio am her bersonol neu'n dîm sy'n chwilio am brofiad bondio, y digwyddiad hwn yw'r un i chi.
Mae ffi mynediad o £15 ac rydym yn gofyn i chi addo codi o leiaf £85 ar gyfer yr elusen. Gallwch ddewis codi arian ar gyfer ward, ysbyty neu wasanaeth penodol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda neu gallwch godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at wella profiadau cleifion, eu teuluoedd a staff y GIG ac ariannu eitemau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i ddarpariaeth safonol y GIG.
Yn ddelfrydol, dylai'r cerddwyr fod dros 11 oed. Rhaid i rai dan 18 oed fod yn ddigon aeddfed i wrando ar yr hyfforddiant a bydd angen i riant neu warcheidwad lofnodi ffurflen ganiatâd.
Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. I gymryd rhan, dilynwch y camau isod:
• Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen Taith Gerdded Tân dan Draed Enthuse lle byddwch yn talu eich ffi cofrestru digwyddiad o £15. Rhowch eich enw fel cyfeirnod. Ni ellir ad-dalu'r ffi.
• Pan fyddwch wedi gwneud eich taliad, llenwch y ffurflen archebu, cliciwch ar 'taliad wedi'i wneud' ac yna cyflwynwch y ffurflen.
• Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen archebu wedi'i chwblhau a'ch taliad, byddwn yn cadarnhau eich lle drwy e-bost.
Mae pob un yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda cyn y digwyddiad ynghyd â chefnogaeth gyda'ch codi arian.
Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif at y sawl wnaeth gymryd rhan.
Am ragor o wybodaeth am y Tân Dan Draed, ewch i: Frequently Asked Questions | firewalking | firewalk