Neidio i'r prif gynnwy

Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG

Ar Orffennaf 5ed 2025 mae'r GIG yn troi'n 77! Ymunwch â'r dathliadau trwy gymryd rhan yn y Pobi MAWR.

Gallwch chi fwynhau paned a chacen – a chodi arian ar gyfer eich gwasanaeth GIG lleol yn y broses. Bydd yr arian hwn yn helpu i dalu am yr ychwanegolion bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion, teuluoedd a staff.

 

Gallwch gymryd rhan yn Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG drwy gydol mis Gorffennaf mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, gallwch:

🧁 Cynhaliwch de parti a gwahoddwch eich teulu a'ch ffrindiau, gan ofyn am rodd i'r elusen

🧁 Cynhaliwch eich gwerthiant cacennau eich hun mewn lleoliad cymunedol, yn y gwaith, yn yr ysgol neu gartref

🧁 Pobwch gacen pen-blwydd ffantastig a chyflwynwch lun i'n cystadleuaeth Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG am y gacen wedi'i haddurno orau – a fydd yn cael ei beirniadu gan enillydd Great British Bake Off, Georgie Grasso! Mae ceisiadau yn £3.

🧁 Cymerwch hunlun gyda'n ffrâm hunlun Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG 

🧁 Gwnewch gyfraniad £5 drwy anfon neges destun at LOVENHS i 70085 neu gwneud cyfraniad ar-lein (cofiwch gynnwys manylion pa ysbyty yr hoffech gyfrannu iddo).

 

Bydd yr holl arian a godir yn mynd i'ch ysbyty lleol ac yn talu am eitemau a gweithgareddau sy'n ychwanegol at wariant craidd y GIG megis:

• Cysuron ychwanegol i gleifion

• Yr offer meddygol mwyaf cyfoes

• Amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff

• Mentrau hyfforddi, datblygu a lles staff

• Ymchwil i driniaethau, a'u datblygu

• Gofal gwell yn ein cymunedau lleol.

 

Camau Nesaf

Os hoffech chi gymryd rhan yn Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG, y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i ni, a dweud wrthym sut y byddwch chi'n codi arian.

Mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth:

Rhif Ffôn: 01267 239815

E-bost: Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk 

I wneud cyfraniad cliciwch yma .

I lawrlwytho deunyddiau ar gyfer eich digwyddiad, cliciwch yma:

Templed baneri

Templed poster

 

Diolch am eich cefnogaeth!

 

 

Dilynwch ni: