Ymunwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda fis Medi yma yn Hanner Marathon Llanelli a byddwch yn rhan o ddigwyddiad epig! Byddwch yn dilyn cwrs arfordirol sy'n berffaith ar gyfer rhedwyr newydd, y rhai sy'n dilyn PB, neu'r rhai sy'n hyfforddi ar gyfer marathon.
Bydd Hanner Marathon Llanelli yn dechrau ac yn gorffen yng nghartref tîm rygbi y Scarlets, Parc y Scarlets. Bydd y rhedwyr yn mynd heibio i gerflun enwog Ray Gravell ac yn camu ar lwybr arfordirol hardd y Mileniwm i fwynhau rhai o'r golygfeydd gorau sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w cynnig!
Buddion Rhedwr:
Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Mae mynediad yn agored i gadeiriau olwyn. I gystadlu, dilynwch y camau isod:
Mae pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad.
Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif a medal at bob ymgeisydd.
Gofynnwn i chi addo codi isafswm o £250 mewn nawdd i’n helusen. Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.