Ymunwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda yn Hanner Marathon Llanelli a 10k a byddwch yn rhan o ddigwyddiad epig! Byddwch yn dilyn cwrs arfordirol sy'n berffaith ar gyfer rhedwyr tro cyntaf, y rhai sy'n gobeithio cael PB, neu'r rhai sy'n ymarfer ar gyfer marathon.
Cynhelir Hanner Marathon Llanelli & 10k ar dir gwastad ar hyd llwybr arfordir y Mileniwm hardd lle byddwch yn mwynhau rhai o'r golygfeydd gorau sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w cynnig.
Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. I gystadlu, dilynwch y camau isod:
Mae pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad.
Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif a medal at bob ymgeisydd.
Gofynnwn i chi addo codi isafswm o £250 ar gyfer yr Hanner Marathon a £100 am y 10k mewn nawdd i’ch elusen GIG.
Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.