Ymunwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda ym mis Hydref i redeg fel nad ydych erioed wedi rhedeg o’r blaen yn y ras ffordd wastad, gyflym, eiconig o amgylch prifddinas Cymru!
Mae Hanner Marathon Caerdydd Principality (yn agor mewn tab newydd) wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous yn y Deyrnas Unedig. Mae bellach yn un o hanner marathonau mwyaf Ewrop a dyma ddigwyddiad cyfranogiad torfol a chodi arian aml-elusen mwyaf Cymru.
Mae'r holl leoedd wedi'u cymryd. I'w roi ar y rhestr wrth gefn, e-bostiwch: CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk
Mae pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad.
Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif a medal at bob ymgeisydd.
Gofynnwn i chi addo codi isafswm o £250 mewn nawdd i’n helusen. Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.
Os oes gennych chi le eich hun yn Hanner Marathon Caerdydd, beth am godi arian ar gyfer eich elusen GIG?
Byddwch yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad, a thystysgrif a medal ar ôl y digwyddiad. Byddwch hefyd yn derbyn yr holl help sydd ei angen arnoch i godi arian ar gyfer eich GIG lleol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch.