Neidio i'r prif gynnwy

Ffyrdd o gefnogi

Cyfrannwch

Gallwch gyfrannu at ein Hapêl drwy glicio ar y botwm isod i wneud cyfraniad untro diogel neu sefydlu rhodd fisol reolaidd am gyfnod yr Apêl. Bydd unrhyw swm, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

 

Gellir rhoi rhoddion i’r Apêl hefyd yn y ffyrdd canlynol:

Trwy neges destun: Anfonwch neges destun GARDENS i 70560 i gyfrannu £5. Neu i roi swm arall ychwanegwch y rhif ar ôl GARDENS – e.e. tecstiwch GARDENS 10 i roi £10.

Drwy’r post: Gwnewch bob siec yn daladwy i ‘T592 - PPH Gardens Appeal’ a’i hanfon i’n Prif Swyddfa: Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt a pheidiwch ag anfon unrhyw arian parod drwy’r post.

Chofiwch gynnwys ffurflen datganiad Cymorth Rhodd (agor mewn dolen newydd) wedi’i llofnodi os ydych yn drethdalwr yn y DU fel y gallwn hawlio rhyddhad treth yn ôl ar eich rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

BACS: Gellir darparu manylion banc ar gyfer trosglwyddiadau banc ar-lein i gefnogwyr ar gais. Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian am ragor o wybodaeth: e-bostiwch fundraising.hyweldda@wales.nhs neu ffoniwch ni ar 01267 239815.

 

Rhoddion mewn nwyddau

Gallwch hefyd wneud cyfraniad anariannol i’r Apêl – er enghraifft, darn o ddodrefn neu offer ar gyfer yr ardd, neu hyd yn oed blanhigion a deunyddiau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch.

 

Gwirfoddoli

Gallwch wirfoddoli eich amser i gefnogi’r Apêl, er enghraifft drwy helpu yn ein digwyddiadau casglu bwced rheolaidd neu helpu i gynnal a chadw’r gerddi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch.

 

Codi Arian

 

 

Beth am ddod yn godwr arian ac ymuno â nifer cynyddol o gefnogwyr sy'n ymgymryd â phob math o heriau ar gyfer yr Apêl?

Mae cannoedd o ffyrdd y gallwch godi arian. Gallech gymryd rhan mewn ras redeg neu feicio noddedig, cael arwerthiant cacennau yn y gwaith, sefydlu digwyddiad codi arian pen-blwydd ar Facebook…mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Am awgrymiadau a syniadau ar gyfer codi arian gweler ein Pecyn Codi Arian.

Gellir sefydlu tudalennau codi arian ar-lein trwy dudalen Enthuse yr Apêl. Fel arall, gellir darparu ffurflenni noddi papur, blychau casglu a bwcedi hefyd i gefnogwyr ar gais.

Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian am ragor o wybodaeth – neu i drafod unrhyw syniadau. E-bostiwch ni @ codiarian.hyweldda@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01267 239815.

 

Busnesau lleol

Lawrlwythwch ein canllaw ar gyfer busnesau yma.

 

Diolch am eich cefnogaeth!

 

Dilynwch ni: