Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: John Shaw, Sue Shaw, Jenny Oxley; Uwch Brif Nyrs a Tracey Owen; Nyrs Staff
Mae John a Sue Shaw wedi codi swm gwych o £3,426 ar gyfer yr Uned Ddydd Feddygol (MDU) yn Ysbyty Llwynhelyg.
Cododd John a Sue yr arian drwy werthu blychau nythu adar gwyllt i deulu, ffrindiau, y gymuned leol a busnesau fel Siop Bentref St Florence, Priory Farm Store New Hedges, Rabarts Doc Penfro, Gwin a Gwirodydd Tredeml, Garej Cross Roads Cilgeti, Mayfield DeckingmDoc Penfro a Sea Land Penfro.
Cododd y pâr yr arian i ddiolch am y gefnogaeth a'r gofal gwych y mae Sue wedi'i dderbyn gan yr uned. Ar hyn o bryd mae Sue yn mynychu'r MDU i gael triniaeth cemotherapi barhaus ar gyfer lewcemia.
Dywedodd Sue: “Mae’r holl arian a godwyd o’r blychau adar wedi’i ddefnyddio i brynu offer newydd y mae mawr ei angen ar gyfer yr MDU.
“Gobeithio y bydd yr offer newydd yn gwneud yr amser a dreulir ar yr uned yn fwy cyfforddus i’r cleifion. Mae’n ffordd o ddiolch i bawb sy’n gweithio mor galed ar yr uned, dyna’r lleiaf y gallwn ei wneud i roi yn ôl i’r ysbyty lleol sydd yn ei dro yn cadw cleifion fel fi yn fyw ac yn iach.”
Dywedodd Jenny Oxley, Uwch Brif Nyrs: “Gan holl staff yr Uned Ddydd Feddygol, diolch yn fawr iawn i Mr a Mrs Shaw.
“Diolch am eich holl amser yn gwneud a gwerthu’r blychau adar, helpodd eich ymdrechion i godi swm anhygoel i’r uned. Mae’r offer newydd yr ydym wedi gallu ei brynu gyda’r arian eisoes wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion a bydd yn parhau i wneud hynny.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”