Uchod: Tiara (chwith) a'i chwaer yn mwynhau ychydig o grefftau Nadolig diolch i'r Gronfa Ddymuniadau
Nod ymgyrch newydd yw cyflwyno eiliadau Nadolig hudolus i blant a phobl ifanc ledled gorllewin Cymru sy'n derbyn gofal y GIG.
Bydd Anfonwch Anrheg yn rhoi’r cyfle i roi rhoddion i gleifion a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu profiadau cofiadwy i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd. Bydd anrhegion hefyd yn cael eu rhoi i gleifion ifanc eraill sydd yn yr ysbyty y Nadolig hwn neu’n derbyn gofal parhaus.
Mae yna nifer o ffyrdd i gefnogi'r ymgyrch. Gall cefnogwyr:
Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn cael ei darparu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’i chefnogi gan Rygbi’r Scarlets.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Rydym yn gofyn i’n cymunedau lleol ein helpu i wneud y Nadolig hwn mor hudolus â phosibl i’n cleifion ifanc.
“Mae Anfonwch Anrheg yn gyfle perffaith i brynu rhywbeth arbennig ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a thriniaeth – a gwneud eu Nadolig!”