Yn y llun uchod: Heidi Charles gyda staff yr uned.
Cymerodd Heidi Charles a'i 'theulu pêl-rwyd' ran yn nhwrnamaint Cynghrair Pêl-rwyd Llanelli yng Ngholeg Sir Gâr a chodi £3,425 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Dywedodd Heidi: “Yn haf 2010, cafodd fy chwaer iau ddiagnosis o ganser y fron datblygedig pan oedd hi ond yn 30 oed. Er iddi gael gofal rhagorol, bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roeddwn i a fy nheulu wedi ein llethu.
“Ychydig llai na 12 mis yn ddiweddarach, des i o hyd i lwmp fy hun. Fel y gallwch ddychmygu, roeddwn i yn bryderus iawn. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy ngweld yn gyflym iawn yn Uned Gofal y Fron Peony, Ysbyty Tywysog Philip.
“Yn dilyn fy adferiad, gwirfoddolais a gweithiais yn yr uned am bedair blynedd. Mae’r staff yn anhygoel, mae eu gofal, eu tosturi a’u caredigrwydd yn arbennig. Maent yn ymdrechu i wneud y byd yn lle gwell i gleifion, teuluoedd cleifion a’r gymuned leol.
“Dydw i ddim wedi bod yn un i siarad yn agored am fy nhaith canser, ond rydw i bob amser wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl am y driniaeth a’r gofal o’r radd flaenaf a gefais pan oeddwn i’n sâl.
“Rwyf bob amser wedi trysori fy nheulu, fy ffrindiau a’r rhai a safodd wrth fy ochr drwy gydol fy nhriniaeth. Rhoddon nhw nerth i mi pan oeddwn i ei angen fwyaf. Rwy’n eu trysori hyd yn oed yn fwy nawr, yn enwedig fy nheulu pêl-rwyd yng Nghynghrair Pêl-rwyd Llanelli.”
Dywedodd Anita Huws, Arbenigwr Cyswllt Gofal y Fron: "Ar ran y tîm, hoffem ddiolch i Heidi a’r holl dimau pêl-rwyd a gymerodd ran am y rhodd hael iawn. Rydym yn hynod ddiolchgar i chi gyd."
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.