Yn y llun uchod: Dewi Owen gyda staff yr uned.
Cwblhaodd Dewi Owen Driathlon Llanelli a chodi £3,100 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Cymerodd Dewi, athro ysgol gynradd a gyrrwr bws o Lanelli, ran yn y triathlon ddydd Sul 11eg Mai 2025 a chodi'r arian fel diolch am y gofal eithriadol a gafodd ei ddiweddar dad, John Owen, yn yr uned.
Dywedodd Dewi: “Cafodd fy nhad ddiagnosis o myeloma lluosog, math o ganser y gwaed, ar 1af Gorffennaf 2010. Derbyniodd ofal eithriadol gan yr Uned Ddydd Cemotherapi am 14 mlynedd a hanner a, hyd at ei farwolaeth ym mis Ionawr, roedd yn dal i dderbyn triniaeth bob yn ail ddydd Iau.
“Yn aml, byddai’n siarad am ei ddiolchgarwch am waith caled ac ymroddiad y meddygon a’r nyrsys yn yr uned, gan gydnabod, hebddynt, na fyddai llawer o gleifion, gan gynnwys ef ei hun, wedi cael yr amser ychwanegol gwerthfawr a gawsant. Roedd yn anrhydedd cwblhau’r triathlon hwn er cof amdano ac i roi rhywbeth yn ôl i’r uned a ofalodd amdano mor dda.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”