Neidio i'r prif gynnwy

Tîm o wyth yn paratoi i herio Hanner Caerdydd

Yn y llun uchod: Pedwar aelod o’r tîm yn ymgymryd â’r hanner marathon: Geraint, Emily, Gareth a Dan.

 

Mae Geraint Evans a thîm o saith cefnogwr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref 2024 i godi arian ar gyfer Uned Ddydd Leri yn Ysbyty Bronglais.

Mae Geraint, Gareth Kirby, Dan Edwards-Phillips, Rhys Taylor, Gareth Lanagan, Kevin Ashford, Elinor Powell, Holly Hughes a merch Geraint, Emily Evans, i gyd yn rhedeg y digwyddiad fel diolch am y gofal ardderchog a gafodd Geraint ar yr uned ar ôl iddo gael diagnosis o myeloma ymledol ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd Geraint: “Cefais ddiagnosis o myeloma ymledol ar ôl cwympo ar gwrs golff. Mae’r driniaeth a gefais yn Uned Ddydd Leri ers hynny wedi bod heb ei hail.

“Roedd fy nhriniaeth yn golygu bod angen trawsblaniad bôn-gelloedd ym mis Chwefror 2023, gyda chwe mis o gemotherapi paratoadol cyn hynny. Er nad oes modd gwella myeloma, rwy'n byw bywyd i'r eithaf ar hyn o bryd. Ni allaf ond priodoli hyn i'r staff ymroddedig yn Uned Ddydd Leri ac arbenigedd y tîm Haematoleg.

“Rwy’n codi arian i gynorthwyo’r uned i gaffael eitemau sy’n cefnogi darparu gwasanaeth mor hanfodol i bawb sy’n byw gyda chanser. Rwy’n teimlo mor ddiolchgar i’r holl staff sydd wedi gofalu amdanaf yn ystod y cyfnod hwn, rwyf am roi rhywbeth yn ôl.

“Diolch yn fawr iawn i gydweithwyr, ffrindiau a theulu sy’n fy helpu i godi cymaint o arian â phosib ac yn rhedeg ochr yn ochr â mi yn Hanner Marathon Caerdydd fis Hydref eleni.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Geraint a’i dîm am ddewis cymryd rhan yn Hanner Caerdydd ar gyfer ein helusen.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gefnogi codwr arian y tîm yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/geraint-evans-1

Dilynwch ni: