Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn rhedeg Ras am fywyd ar gyfer uned oncoleg

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Mikey Denman; Gemma Thomas, HCSW; Clare Rees, SGIC; Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs; Sian Denman; Mattie Denman; Tomi Tucker; Ebony Tucker a Matthew Tucker.

 

Cymerodd y teulu Denman a Tucker ran yn Ras am Fywyd Llanelli er cof am aelod annwyl o’r teulu Gwen Davies i ddweud ‘diolch’ am y gofal rhagorol a gafodd yn Ysbyty Tywysog Philip.

Cymerodd Ebony, Sian, Mikey, Mattie, Matthew a Tomi i gyd ran yn y ras 5k gan godi swm gwych o £474 i’r Uned Oncoleg.

Dywedodd Ebony Tucker: “Cafodd fy Nana, Gwen Davies, ddiagnosis o Ganser yr Ysgyfaint Cam 4 ym mis Ebrill 2024. Dywedodd fy chwaer fach, Mattie, wrthym ei bod am gymryd rhan mewn ras i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd ofnadwy hwn.

“Ar ôl siarad â Nana, dywedodd wrthym ei bod hi wir eisiau i ni godi arian ar gyfer yr Uned Oncoleg anhygoel yn y Tywysog Philip lle’r oedd yn derbyn ei thriniaeth.

“Hoffem ddiolch i’r holl staff ar Ward 1 a oedd yn gofalu am Nana, yr holl staff yn yr Uned Oncoleg a’r Tîm Gofal Lliniarol, a’n harwr nyrsio GIG ein hunain, Mikey, a symudodd i mewn gyda Nana a gofalu amdani drwy gydol ei salwch.

“Diolch i bawb a gyfrannodd, a helpodd a chefnogodd ein gweithgareddau codi arian a Nana. Yn bwysicaf oll, Nana, ni fyddai unrhyw un ohonom yma heboch chi. Chi oedd y wraig fwyaf anhygoel, Mam, Nana, Hen-Nana, a ffrind, a oedd yn caru pawb y gwnaeth hi gwrdd â nhw, ac a fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i deulu Denman a Tucker am godi arian ar gyfer yr Uned Oncoleg.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: