Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Siena Mansaray, Nyrs Pediatrig dan hyfforddiant; Laura Thomas, Nyrs Glinigol Arbenigol; Anne-Louise, Mam Rhys; Faye Calthorpe, chwaer Rhys; Mrs Morris a Mr Morris,nain a taid Rhys; Rowena Jones, Nyrs Allgymorth Oncoleg Pediatrig Arbenigol wedi Ymddeol, sydd ar hyn o bryd yn Nyrs Banc Pediatrig/COINS; Rebecca McDonald, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Gofal Lliniarol Pediatrig; Kerri Rowe, Nyrs Allgymorth Oncoleg Pediatrig Arweiniol a Sally Preece, Prif Nyrs ar Ward Cilgerran/Nyrs COINS.
Cymerodd teulu Rhys Calthorpe, a fu farw’n drist yn 14 oed, ran yn nofio Dydd Calan Saundersfoot 2025 er cof amdano a chodi £750 ar gyfer y Gronfa Ddymuniadau.
Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn ymgyrch a gyflwynir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n creu atgofion parhaol i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n peryglu bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Yn anffodus, bu farw Rhys ar 17 Gorffennaf 2023 oherwydd Lewcemia Myeloid Acíwt. Bu farw Rhys yn dawel yng nghartref ei nain a’i daid, lle’r oedd yn dymuno aros, gyda’i deulu o’i gwmpas.
Dywedodd Mr. Morris, Taid Rhys: “Ar Ddydd Calan, cymerodd fi, Mamgu Rhys, Mam a Chwaer, ran yn Nofio Dydd Calan ar draeth Saundersfoot.
“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth er cof am ein Rhys. Roedden ni hefyd eisiau codi arian i ddweud diolch a rhoi yn ôl am y gofal anhygoel a gafodd Rhys. Dewison ni’r Gronfa Ddymuniadau gan eu bod nhw’n gwneud gwaith anhygoel i deuluoedd fel ein un ni.
“Diolch i bawb a’n noddodd. Er cof am Rhys William Calthorpe – Mab, Brawd, Ŵyr.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch o galon i deulu Rhys am eu codi arian hael, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion sy’n cael gofal gan y gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael gwybod mwy am y Gronfa Dymuniadau, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/the-wish-fund/