Yn y llun uchod: Jac Griffiths gyda staff o Ward 11 yn Ysbyty Llwynhelyg.
Trefnodd Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon daith tractorau i ddathlu eu pen-blwydd yn 80 oed a chodi £600 ar gyfer Ward 11, y ward strôc, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Jac Griffiths, Cadeirydd CFfI Hermon: “Roedd codi £600 yn gamp fawr. Rwy’n falch ein bod wedi cynnal y daith ac wedi codi arian at achos gwych.
“Hoffwn ddiolch i holl arweinwyr ac aelodau CFfI Hermon; Jac Vaughan, trefnydd nifer o wahanol deithiau tractor yn yr ardal, am ein helpu i drefnu’r ras; Midway Motors am gychwyn y ras yn eu cyfleuster, ac yn olaf i bawb a fynychodd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Jac a holl aelodau CFfI Hermon am ddewis ein cefnogi yn ystod eu pen-blwydd yn 80 oed.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”