Neidio i'r prif gynnwy

Taith tractorau Ceredigion yn codi dros £3,200 i elusennau Cymreig

Yn y llun uchod: Cefn - Carwen Davies; Celia Bennett; Dr D McKeogh, Cardiolegydd Ymgynghorol; Ceris Jones; Twm; Calfyn Jones; Emily Woodward; a Dr K Joseph, Cardiolegydd Ymgynghorol.

Blaen – Dafydd ac Arwel Griffiths.

 

Trefnodd Calfyn Jones taith tractorau trwy gefn gwlad Ceredigion a chodwyd £3,230 at elusen.

Rhoddwyd £1,615 i Adran Gardioleg Ysbyty Bronglais a £1,615 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliwyd y daith tractorau ar 13 Ebrill 2025 yn Neuadd Bentref Dihewyd.

Dywedodd Calfyn, 26, o Dihewyd: “Yn ôl yn 2022, ces i ddamwain a arweiniodd at gael fy nghludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anaf pen sylweddol.

“Yn dilyn cyfnod o amser yn yr ysbyty, penderfynais fy mod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru am achub fy mywyd. Yn 2023, fe ddechreuon ni taith tractorau yn Dihewyd i godi rhywfaint o arian. Ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus, fe benderfynon ni barhau a chodi arian i ddwy elusen bob blwyddyn.

“Eleni, fe benderfynon ni bigo Ambiwlans Awyr Cymru a’r Adran Gardioleg yn Ysbyty Bronglais oherwydd nôl ym mis Chwefror 2025, fe gollon ni ein hewythr, Johnny, oedd yn glaf yno. Roedd yn hynod ddiolchgar am yr holl ofal a gafodd ganddynt dros y blynyddoedd. Roedd yn teimlo’n iawn i’w roi yn ôl iddynt er cof amdano.

“Eleni aeth y tractorau ar hyd llwybr hyfryd drwy gefn gwlad Ceredigion a aeth fel a ganlyn: Dihewyd, Cribyn, Felinfach, Abermeurig, Trefilan, Cilcennin, Ciliau Aeron ac yn ôl i Dihewyd. Roedd y golygfeydd yn anhygoel, a’r haul yn tywynnu’n llachar a oedd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy o daith hyfryd.

“Hoffem ddiolch i’r unigolion a gyfrannodd eitemau arwerthiant, y gwobrau raffl, pawb a ddaeth allan i gefnogi, gyda’u tractorau, a’r rhai a ddaeth i’n gweld ar y cychwyn neu dim ond i chwifio atom ar hyd y llwybr. Heb haelioni’r gymuned a gyrwyr tractorau, ni fyddai dim o hyn yn bosibl.

“Diolch i Bwyllgor Neuadd Bentref Dihewyd am ganiatáu i ni ddefnyddio’r neuadd a’r cae i barcio’r tractorau, Castle Green yn Llambed am fod yn arlwywyr gwych, a phawb a fu’n pobi cacennau ac yn helpu ar y diwrnod.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Calfyn a’i deulu am drefnu taith tractorau mor llwyddiannus.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: