Neidio i'r prif gynnwy

Taith gerdded yr haf er budd Diabetes Pediatrig yn codi dros £1,600

Yn y llun gwelir: Staff a plant ar y daith gerdded.

 

Ddydd Gwener 9 Awst, aeth dros 50 o oedolion a phlant ar daith gerdded haf noddedig 3k ym Mharc Gwledig Pen-bre i godi arian ar gyfer Gwasanaeth Diabetes Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cododd y daith gerdded, a drefnwyd gan Kim Crossman, Gweinyddwr Diabetes Pediatrig, a Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro, swm gwych o £1,667 ar gyfer y gwasanaeth.

Dywedodd Simon Fountain-Polley, Pediatregydd Ymgynghorol: “Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn dod at ei gilydd ar gyfer y daith gerdded, mae’n cynnig cyfle iddynt gyfarfod a rhannu eu profiad o’r gwaith beunyddiol o reoli diabetes a’r heriau a ddaw yn ei sgil.

“Mae hefyd wedi ein helpu i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n golygu y gallwn barhau i ariannu’r teithiau a’r addysg yr ydym yn bwriadu eu cynnig. Mae ein tîm yn defnyddio’r arian hwn i drefnu diwrnodau gweithgaredd i’r teuluoedd, ochr yn ochr â dysgu sut i reoli diabetes mewn gwahanol sefyllfaoedd, fel Symud i Flwyddyn 7, a Diabetes ac Ymarfer Corff.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn Nhaith Gerdded Haf Diabetes Pediatrig. Braf oedd gweld pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer achos mor wych.

“Roedd yn nifer wych gyda theuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth ac aelodau staff yn cymryd rhan. Roedd y tywydd yn berffaith!

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: