Yn y llun uchod (Chwith i’r Dde): Tomos Sandbrook, Mererid Sandbrook, Dylan Sandbrook, Wendy Jenkins, Sarah Bennet, Debbie Carruthers, Julie Nicholas a Sian Williams.
Aeth tîm o 18 o CARA Wales ar daith 10 milltir a chodwyd £1,000 ar gyfer y Ward Strôc yn Ysbyty Llwynhelyg.
Cerddodd tîm CARA Wales, sefydliad ymgynghori a chynghori amaethyddol a gwledig, ar draws Mynyddoedd y Preseli o Foel Drygan i Foel Eryr ar 17 Mehefin 2023.
Dywedodd Mererid Sandbrook, sy’n gweithio i CARA Wales: “Dechreuodd y daith gerdded yng Nghrymych ac fe wnaeth parhau ar hyd yr Heol Aur hyd at Foel Eryr, pwynt uchaf Mynydd Preseli. Roedd yn ddiwrnod pleserus iawn.
“Roedden ni i gyd yn falch iawn o fod wedi codi cymaint o arian. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd arian tuag at ein her.”
Codwyd £1,000 ar gyfer y Gymdeithas Strôc hefyd.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr i CARA Wales am gymryd y daith 10 milltir er budd y Ward Strôc. .
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”