Neidio i'r prif gynnwy

Staff ward strôc i ddringo'r Wyddfa

Mae staff o Ward Ystwyth, y ward strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais, yn dringo'r Wyddfa i godi arian ac ymwybyddiaeth o strôc.

Mae Nyrsys Staff, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Clerc y Ward, Prif Nyrsys Ward, Ffisiotherapyddion a Therapydd Galwedigaethol o’r ward, ynghyd â theulu a ffrindiau, yn dringo ar 1 Mehefin 2025.

Dywedodd Jackie Thomas, Clerc y Ward: “Rydym yn codi arian ar gyfer offer adsefydlu ar gyfer Ward Ystwyth ac yn rhoi rhodd i’r Gymdeithas Strôc.

“Rydym yn dymuno codi ymwybyddiaeth o strôc yn ein cymuned leol a pha mor bwysig yw hi i weithredu ar yr arwyddion cyntaf o strôc. Bydd yr arian a godir yn helpu gydag adferiad cleifion ac adsefydlu.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff Ward Ystwyth am ddod ynghyd i ymgymryd â her mor wych i godi arian ac ymwybyddiaeth. Pob lwc i chi gyd!

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gyfrannu at y codwr arian, ewch i: https://www.justgiving.com/page/ystwyth-ward1

Dilynwch ni: