Yn y llun uchod: Staff gyda'r spiromedr.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu Spiromedr Vitalograph Alpha 6000 gwerth dros £1,500 i'w ddefnyddio gan Nyrsys Anadlol Cymunedol yng Ngheredigion.
Defnyddir spiromedr i wneud diagnosis a monitro cyflyrau'r ysgyfaint fel asthma a Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD).
Dywedodd Caroline Winkworth, Gweinyddwr Tîm Anadlu Cymunedol Ceredigion: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ariannu'r spiromedr newydd.
“Bydd y spiromedr yn galluogi ein tîm i wneud spirometreg ddiagnostig yng nghymuned Ceredigion. Byddant yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o gleifion trwy wneud diagnosis yn gyflymach, monitro cyflyrau'n fwy effeithiol a rhoi gwybodaeth berthnasol i gleifion sydd angen ymyriadau llawfeddygol mewn modd mwy amserol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.