Neidio i'r prif gynnwy

Setiau teledu newydd yn tynnu sylw cleifion

Yn y llun uchod: Staff o Ward Teifi gydag un o'r setiau teledu.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu pedwar teledu newydd ar gyfer Ward Teifi yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Nia Jones, Prif Nyrs y Ward: "Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu pedwar teledu newydd ar gyfer Ward Teifi.

“Bydd y setiau teledu hyn yn gwella gofal a phrofiad cleifion yn Ward Teifi. Mae llawer o'n cleifion yn gaeth i'r gwely ac mae gan rai gyflyrau asgwrn cefn, felly nid ydynt yn defnyddio'r ystafell ddydd nac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n digwydd yn yr ystafell ddydd.

“Mae gwylio'r teledu yn arfer cyffredin yn y rhan fwyaf o gartrefi, felly, mae darparu'r cyfleuster hwn yn normaleiddio arhosiad y cleifion ar Ward Teifi. Gall gwylio'r teledu helpu cleifion i ailgyfeirio eu ffocws o'u cyflwr a'u poen i'r rhaglen maen nhw'n ei gwylio.

“Mae cael teledu yn y baeau ward yn annog cymdeithasu, yn darparu adloniant, yn atal y teimlad o ynysu ac yn cynyddu trafodaeth rhwng cleifion a all ond cynorthwyo adferiad cleifion a gwella eu harhosiad ar Ward Teifi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: