Uchod (chwith i'r dde): Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig; Rebecca McDonald, Nyrs Glinigol Arbenigol, Gofal Lliniarol Pediatrig; Josh Macleod a Jake Ball o’r Scarlets; Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda a’r Cynorthwyydd Cyfathrebu Josey Vaughan-Hughes.
Mae Rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi ei gefnogaeth barhaus i’r Gronfa Ddymuniadau – ymgyrch dwymgalon sy’n cael ei rhedeg gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n ariannu profiadau llawen i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n bygwth bywyd, a’u teuluoedd.
Ers ei lansio yng ngwanwyn 2022, mae’r Gronfa Ddymuniadau wedi codi £40,000, gan alluogi tîm Gofal Lliniarol Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu eiliadau cofiadwy i deuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. Mae’r rhain wedi cynnwys gwibdeithiau arbennig i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Urdd Llangrannog, ac ymweliadau Nadoligaidd â’r Celtic Manor.
Mae teuluoedd hefyd wedi cael eu croesawu i gemau’r Scarlets yn rhad ac am ddim, gyda stondin gwybodaeth Cronfa Ddymuniadau yn bresennol yn rheolaidd yn y gemau cartref i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch.
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym wrth ein bodd o gael cefnogaeth barhaus y Scarlets i’n hymgyrch Cronfa Ddymuniadau. Mae’r gefnogaeth hon yn ein helpu i fynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, gan gynnig adnoddau chwarae therapiwtig, pecynnau lles i frodyr a chwiorydd, a gweithgareddau grŵp sy’n dod â theuluoedd at ei gilydd.
“Mae’r profiadau hyn yn ein helpu i adeiladu atgofion parhaol ac eiliadau o lawenydd yn ystod cyfnod anodd.”
Ychwanegodd chwaraewr y Scarlets Josh Macleod: “Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o fenter y Gronfa Ddymuniadau. Gobeithio y gall ein cefnogaeth ddod â gwen a phrofiadau bythgofiadwy i deuluoedd ar draws y rhanbarth.
“Rydyn ni eisiau ysbrydoli eraill i gymryd rhan a’n helpu ni i ledaenu ychydig o hapusrwydd lle mae ei angen fwyaf.”
I ddysgu mwy neu i gefnogi’r ymgyrch, ewch i: Y Gronfa Ddymuniadau - Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)