Yn y llun: staff y fferyllfa yn mwynhau'r ystafell wedi'i hadnewyddu.
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £26,984 i ariannu adnewyddu ystafell staff fferyllfa Ysbyty Glangwili.
Oherwydd ei faint a'r nifer cynyddol o bobl yn ei defnyddio, roedd ystafell staff y fferyllfa wedi dod yn annigonol fel lle gorffwys.
Mae'r ystafell staff wedi'i huwchraddio, sy'n cynnwys cyfleusterau cegin a dodrefn newydd eu gosod, yn sicrhau y gall holl staff y fferyllfa fwynhau lle ymlaciol a chymryd seibiant mewn cysur.
Esboniodd John Harris, Pennaeth Fferyllfa Glangwili: “Roedd ystafell orffwys y staff wedi bod yn cael ei defnyddio ers dros 30 mlynedd ac yn wreiddiol roedd yn darparu ar gyfer 20 aelod o staff; mae dros 70 bellach.
“Mae’r ystafell wedi’i hadnewyddu’n darparu lle llawer mwy cyfforddus a hyblyg. Nawr gall staff y fferyllfa fwynhau ardal o ansawdd uchel, ymlaciol lle gallant gymryd peth amser i ffwrdd.
“Gobeithiwn y bydd gan yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu effaith gadarnhaol iawn ar ein staff, gan eu helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion.”