Yn y llun gyda'r sganiwr pledren (chwith i'r dde): Uwch Prif Nyrs Sarah Richards a
Prif Nyrs Iau Cerys Hopcroft.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 ar gyfer Ward 3 yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae Ward 3 yn ward feddygol gyffredinol sy'n arbenigo mewn gofal henoed ac eiddilwch. Mae’n cefnogi cleifion â diagnosis fel dementia a chlefyd Parkinson a’r rhai sy’n byw gydag eiddilwch.
Bydd y sganiwr pledren yn helpu'r gwasanaeth i ddarparu asesiad a gofal amserol ac effeithlon i gleifion, gan gefnogi eu hadsefydliad.
Dywedodd Cerys Hopcroft, Prif Nyrs Iau: “Mae Ward 3 yn lansio uned eiddilwch newydd yn fuan. Bydd y cyfarpar newydd yn ein galluogi i sganio cleifion pan gânt eu derbyn i'r uned er mwyn nodi unrhyw broblemau yn brydlon.
“Bydd y sganiwr hefyd yn sicrhau y bydd yr uned newydd yn rhedeg yn effeithlon ac yn llyfn. Mae’n golygu y gallwn asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion â phroblemau pledren ar yr un diwrnod. Bydd yn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen i ofal cleifion, ac y gall cleifion gael eu rhyddhau yn gynt o bosibl.
“Rydym mor ddiolchgar ein bod wedi gallu cael y sganiwr bledren ar gyfer Ward 3 ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn ein cefnogi bob dydd gyda gofal cleifion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”