Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu peiriannau anadlu newydd gwerth dros £120,000 ar gyfer babanod newydd-anedig

Yn y llun gyda rhai o'r peiriannau anadlu newydd yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glangwili, o'r chwith i'r dde: Saranya Syamala, Nyrs Staff; Molly Brikshaw-Davies, Myfyriwr Nyrsio; Catrin Owains, Prif Nyrs; Catrin Johns, Addysgwr Ymarfer Newyddenedigol; Mari Phillips, Nyrs Staff.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi ariannu pum peiriant anadlu newydd gwerth dros £120,000 ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol yn ysbytai Glangwili a Bronglais.

Mae'r peiriannau anadlu newydd yn darparu'r dechnoleg ddiweddaraf sy'n bodloni safonau arfer gorau ar gyfer babanod sy'n cael eu geni'n gynamserol neu â phroblemau anadlol.

Trwy ddefnyddio awyru ‘cyfaint gwarantedig’, mae’r peiriannau newydd yn amddiffyn ysgyfaint babanod cynamserol a gallant helpu i leihau cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint.

Yn ogystal, mae'r peiriannau anadlu newydd yn darparu'r holl gefnogaeth anadlol ofynnol ac yn cyflawni swyddogaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan dri pheiriant ar wahân.

Dywedodd Nick Davies, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau – Gwasanaethau Pediatrig a Newyddenedigol Acíwt: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion elusennol hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r pum peiriant anadlu hyn, pedwar ar gyfer Glangwili ac un ar gyfer Bronglais.

“Bydd y peiriannau anadlu newydd yn ein helpu i ddarparu’r gofal gorau oll yn ein gwasanaethau newyddenedigol.”

Dywedodd Bethan Osmundsen, Uwch Nyrs Pediatreg Acíwt ac Uwch Nyrs Dros Dro i’r Newydd-anedig: “Mae’r peiriannau anadlu newydd yn sicrhau bod cyfeintiau o ocsigen yn cael eu darparu mewn ffordd reoledig i gleifion, gan leihau’r posibilrwydd o niwed i’r ysgyfaint, yn enwedig mewn babanod cyn amser. Mae'r dyfeisiau hefyd yn sicrhau bod manteision awyru yn cael eu huchafu fel y gallwn sefydlogi cyflwr claf.

“Gan fod y peiriannau newydd wedi gwella ymarferoldeb, byddant yn lleihau faint o offer ar ochr y crud a hefyd yn lleihau’r angen i staff ddefnyddio peiriannau lluosog yn ystod cyfnod gofal. Dim ond un darn o offer fydd ei angen ar staff yn hytrach na thri.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu offer o’r radd flaenaf ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol a fydd yn o fudd i gleifion a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: