Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu lamp archwilio llygaid ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Russell Walker, Peiriannydd Gwasanaeth, Haag-Streit; Vicki Hughes, Ymgynghorydd Adran Achosion Brys; Dr Antony Mathew, Ymgynghorydd Adran Achosion Brys.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi darparu dros £20,000 ar gyfer lamp newydd ar gyfer yr Adran Achosion Brys a’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

Mae’r lamp yn ddarn pwysig o offer wrth gynnal archwiliad llygaid cynhwysfawr. Gellir defnyddio'r offeryn i archwilio'r llygaid yn fanwl a phenderfynu a oes unrhyw annormaleddau. Mae'r lamp hefyd yn sicrhau y gellir trafod canlyniadau gyda chleifion ac arbenigwyr ar unwaith.

Gall lamp helpu i wneud diagnosis o sawl mater gan gynnwys anaf, afiechyd neu niwed i rannau o'r llygad; cyrff tramor yn y llygad; syndrom llygaid sych; datodiad retinol; dirywiad macwlaidd, a glawcoma.

Dywedodd Dr Antony Varekattu Mathew, Ymgynghorydd Meddygaeth Frys/Cyfarwyddwr Rhaglen Sylfaen Arweinydd Clinigol: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymuned leol wedi ein galluogi i brynu’r darn amhrisiadwy hwn o offer a fydd o fudd i gleifion am flynyddoedd lawer i ddod.

“Mae'r lamp hollt mor ddefnyddiol wrth wneud diagnosis a gwerthuso cwynion llygadol cyffredin, argyfyngau llygadol, a chlefyd systemig. Mae hefyd yn helpu i ddarparu triniaethau llygaid amrywiol fel tynnu corff tramor o'r llygad.

“Mae’n bosibl y bydd angen archwiliadau llygaid ar tua 3-4% o gleifion sy’n dod i’r Adran Achosion Brys. Mae'r lamp hollt yn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau iddynt."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: