Yn y llun: Y cadeiriau therapi newydd.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu deg cadair therapi gwerth dros £45,000 ar gyfer gwasanaethau Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Glangwili.
Mae'r cadeiriau therapi wedi'u prynu ar gyfer yr Uned Asesu Meddygol a'r Uned Penderfyniadau Clinigol.
Mae'r cadeiriau wedi'u dewis yn ofalus yn dilyn adborth gan gleifion ac maent yn cynnig nodweddion ychwanegol er cysur. Mae'r rhain yn cynnwys gobennydd pen sefydlog, clustog i atal difrod pwysedd, polyn mewnwythiennol integredig ar gyfer y rhai sydd â drip, man i orffwys traed, seibiannau braich y gellir eu haddasu a teclyn rheoli o bell wedi'i oleuo.
Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Carys Davies: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r cadeiriau therapi newydd.
“Gall cleifion eistedd yn y cadeiriau am oriau lawer. Mae'n bwysig felly bod eu lles yn cael ei gynnal trwy gael cadeiriau cyfforddus gyda swyddogaeth lledorwedd fel y gallant gael gorffwys os oes angen. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod yr Uned Asesu Meddygol yn darparu gwasanaeth 24 awr.
“Bydd y cadeiriau newydd yn arwain at brofiad mwy cyfforddus a gwell i gleifion a gobeithiwn y byddant o fudd i gleifion am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”