Neidio i'r prif gynnwy

Rhodd o £2.2k ar gyfer uned ddydd chemo er cof am ffrind da

Mae rhodd hael gwerth £2,200 wedi ei wneud i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, er cof am ffrind annwyl.

Cododd Rachel Price y swm gwych drwy gynnal noson elusennol Bingo Lingo, gyda’r elw’n mynd i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Cynhaliwyd y noson elusennol er cof am ffrind Rachel, Sian Axford, oedd yn gweithio fel athrawes mewn ysgol gynradd yng Nghaerfyrddin. Bu farw Sian ym mis Awst 2021 yn 48 oed. Roedd hi wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr Uned Ddydd Cemotherapi cyn iddi farw.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym mis Hydref 2025 ac roedd nifer dda iawn yn bresennol. Gwerthwyd pob tocyn o fewn dyddiau, a dywedodd Rachel, “dangosodd pa mor annwyl iawn oedd Sian”.

Ac roedd Rachel yn ddiolchgar am y nifer enfawr a mynychodd a'r gefnogaeth.

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd, i’r rhai a brynodd docynnau raffl cyn ac ar y noson, ac i bawb a gyfrannodd gwobrau raffl anhygoel mor hael.

“Diolch enfawr i Glwb Athletau Caerfyrddin am ddarparu’r lleoliad a chadw’r diodydd i lifo drwy’r nos. Diolch yn arbennig i Chris Roly am ddarparu adloniant gwych ac am gyfrannu hefyd at ein hachos elusennol.

“Diolch i garedigrwydd, haelioni a chefnogaeth pawb a gymerodd ran, llwyddwyd i godi’r swm anhygoel o £2,200 i’r uned. Diolch i chi gyd o waelod fy nghalon.”

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Jessica Michael: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian gan arwain at gyfraniad hael iawn o £2,200.

“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd yr ydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Gallwn eich sicrhau y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn.”

Dilynwch ni: