Yn y llun uchod: Staff o SCBU gyda Nicole, Rhys ac Elia Flur Harries.
Cynhaliodd y rhieni Nicole a Rhys Harries ‘bingo lingo’ a raffl a chodi £2,500 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Trefnodd Nicole a Rhys, o Lanelli, y digwyddiad codi arian fel diolch am y gofal gwych a gafodd eu merch, Eila Fflur Harries, yn yr uned.
Rhedodd Nicole Hanner Marathon Llanelli ym mis Chwefror hefyd.
Dywedodd Nicole: “Ganwyd ein merch, Eila, chwe wythnos yn gynnar. Ar ôl treulio mis yn yr Uned Gofal Arbennig a gweld yn uniongyrchol beth sy’n digwydd o fewn y pedair wal hynny, rydym yn credu’n gryf fod nyrsys yr Uned Gofal Arbennig yn archarwyr go iawn!
“Roedd y gofal a gafodd Eila heb ei ail ac roedd y gefnogaeth a roddon nhw i ni fel rhieni yn hollol anhygoel. Gan mai dyma ein plentyn cyntaf ac yn annisgwyl iawn, dyma un o’r pethau anoddaf rydyn ni wedi bod drwyddo fel teulu, ac rydyn ni mor anhygoel o ddiolchgar am bopeth a wnaeth y rhai yn SCBU i’n seren fach felly roedden ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.
“Roedd y noson bingo, a arweiniwyd gan Susan Partridge-Leach, yn ffordd wych o godi arian gan ei bod yn hwyl ac yn gyffrous i bawb. O ran yr hanner marathon, doeddwn i erioed wedi rhedeg ymhellach na 10km pan wnes i gofrestru i'w wneud gyntaf, fodd bynnag, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n fy ngwthio allan o fan cysurus ac yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi. Er mor heriol ag yr oedd, cymerwyd pob cam gyda balchder gan wybod faint yr oeddem wedi'i godi.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn. Diolch yn fawr i Nicole, Rhys a’u cefnogwyr!”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau a staff.