Neidio i'r prif gynnwy

Rhedeg Hanner Marathon Caerydd er budd Ward Canser

Gwelir yn y llun uchod: Chloe Lewis and Simon Watson-Smith.

 

Mae Chloe Lewis a Simon Watson-Smith yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref 2024 er cof am rieni Simon, Ian a Sandra Watson-Smith.

Mae Chloe a Simon yn cymryd rhan yn nigwyddiad torfol ac aml-elusen mwyaf Cymru i godi arian ar gyfer Ward Meruig yn Ysbyty Bronglais, lle mae Chloe yn gweithio.

 Dywedodd Chloe: “Rydym yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn ar gyfer Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais sy’n ward oncoleg. Mae gweithio o fewn y ward hon am bedair blynedd wedi bod yn anrhydedd ac yn agoriad llygad o ran faint o argyfyngau oncoleg sydd yno.

“Mae gan Ward Meurig le agos yn ein calonnau i mi a fy nheulu gan fod cyn-aelodau o’r teulu wedi derbyn gofal mor wych yn ystod eu cyfnod mwyaf bregus.

“Hoffwn herio fy hun i gwblhau’r hanner marathon hwn i gefnogi’r rhai sy’n derbyn newyddion dinistriol sy’n newid bywydau. Mae’r ward yn cefnogi gofal diwedd oes, argyfyngau sepsis, cleifion lliniarol ac yn cefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Fy nod yw gallu helpu i ariannu offer cefnogol ar gyfer plant ifanc sydd wedi colli anwyliaid. Gall y rhain gynnwys llyfrau yn ymwneud â galar, tedis, coed atgofion, a gweithgareddau eraill a fydd yn caniatáu iddynt fynegi eu teimladau o fewn y ward neu gartref wrth ddelio â galar.”

Dywedodd Simon: “Fe wnaeth y ward fy helpu i a fy nheulu yn fawr pan gafodd fy mam, Sandra, ddiagnosis o ganser yr oesoffagws a fetastasodd yn ddiweddarach. Roedd staff y ward yn barod iawn i helpu i wneud iddi deimlo'n gyfforddus ac roeddent yn garedig iawn i ni i gyd ar yr eiliad honno. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, derbyniodd fy nhad, Ian, y newyddion hefyd ei fod wedi cael diagnosis o ganser lymffoma nad yw’n ganser Hodgkin. Unwaith eto bu'r ward yn gweithio gyda ni i roi triniaeth iddo bob awr o'r dydd a'r nos.

“Rwy’n rhedeg er cof am fy rhieni ac am y gwaith gwych mae’r staff ar Ward Meurig yn ei wneud bob dydd nid yn unig i bobl fel fy rhieni ond i bob person sy’n camu ar y ward.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Chloe a Simon am redeg Hanner Caerdydd ar gyfer achos mor deilwng.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch chi gefnogi codwr arian Chloe a Simon yma

: https://www.justgiving.com/page/chloe-simon-1719934644372

Dilynwch ni: