Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn galw ar gymunedau lleol i bobi ym mis Gorffennaf i gefnogi eu gwasanaethau GIG lleol.
Ar 5 Gorffennaf 2025, bydd y GIG yn troi'n 77 oed. I ddathlu, mae'r elusen yn gofyn i bobl gymryd rhan yn Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG drwy gynnal te parti, gwerthiannau cacennau, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n gysylltiedig â phobi. Bydd yr arian a godir yn talu am y pethau bach ychwanegol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth mor fawr i gleifion a staff y GIG.
A gall y pobyddion creadigol yn ein plith gymryd rhan mewn cystadleuaeth addurno cacennau fydd yn cael ei feirniadau gan neb llai na Georgie Grasso, enillydd y Great British Bake Off 2024.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Mae codi arian yn chwarae rhan mor bwysig wrth wella bywydau ein cleifion a’n staff ym mhob un o’n gwasanaethau. Gobeithiwn y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn ein Pobi MAWR ar gyfer Penblwydd y GIG a gwneud gwahaniaeth i gleifion a staff ar draws Hywel Dda.
“Mae’r arian a godir gan elusen y GIG yn talu am eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG megis cysuron ychwanegol i gleifion, yr offer meddygol mwyaf cyfoes, amgylcheddau mwy croesawgar, mentrau hyfforddi a lles staff, gofal gwell yn ein cymunedau, ac ymchwil.
“Nid yw’r elusen erioed wedi bod yn bwysicach wrth helpu i ddarparu’r gofal a’r profiadau gorau i gleifion a staff.”
Ychwanegodd y Swyddog Codi Arian Claire Rumble: “Mae pobi hefyd yn dod â phobl at ei gilydd, a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yn cael effaith gadarnhaol iawn ar les pawb sy’n cymryd rhan!”