Cymerodd grŵp o blant ysgol ran mewn taith gerdded noddedig i godi arian ar gyfer uned ddydd cemotherapi, achos sy'n agos at eu calonnau.
Roedd y plant ifanc, o Ysgol Llys Hywel yn Hendy-gwyn ar Daf, yn codi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, i ddweud diolch am y gofal a gafodd eu hathrawes yno.
Roedd y daith gerdded noddedig yn un o ddau ddigwyddiad codi arian a gynhaliwyd gan Ysgol Llys Hywel ar ran Caroline Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol. Mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr uned ers dwy flynedd. Roedd y digwyddiad arall – bore coffi – yr un mor llwyddiannus, gyda’r ddau ddigwyddiad yn codi cyfanswm o £2,600 i’r uned.
Wrth ddiolch i gymuned yr ysgol am eu cefnogaeth, dywedodd y Pennaeth Vanessa Roberts eu bod yn ffodus iawn i gael cymuned mor gefnogol lle mae pawb yn adnabod Caroline.
Ac roedd Caroline, hefyd, yn ddiolchgar iawn am yr ymdrechion codi arian.
Dywedodd: “Rwyf mor falch gyda’r swm a godwyd gan y plant, rhieni a staff yn eu bore coffi a’u taith gerdded noddedig.”
Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i Ysgol Llys Hywel am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at gyfraniad hael iawn o £2,600.
“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion o fewn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”