Côr Cân o'r Galon yn perfformio ar lwyfan
Mae côr o blant sydd wedi wynebu llawdriniaeth ar y galon yn ddewr, ynghyd â ffrindiau a’u teuluoedd, wedi recordio cân Nadolig Gymraeg, sef ‘Pob Un Plentyn’, i godi arian i wasanaeth Cardioleg Bediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ffurfiwyd y côr, o’r enw Cân o'r Galon, i ddathlu cryfder ac enaid y plant sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon.
Yn cyfeilio i gôr Cân o'r Galon wrth berfformio’r gân oedd y band ifanc Coron Moron.
“Mae’r plant sy’n cymryd rhan wedi wynebu heriau anferthol ond, eto i gyd, maen nhw wedi dod â chymaint o lawenydd a dewrder i’r prosiect hwn,” meddai Dr Siân Jenkins, Meddyg Ymgynghorol mewn Pediatreg Gyffredinol, a gyfansoddodd y gân.”
Mae un o’r cantorion ifanc, sy’n 13 oed, ymhlith y rhai a gefnogwyd gan dîm cardiaidd Ysbyty Glangwili. Dywedodd ei gwarcheidwad, Kristie Gordon: “Mae’r côr hwn wedi rhoi rhywbeth cadarnhaol i’r plant fod yn rhan ohono ac ymfalchïo ynddo. Mae’n fodd i ddathlu eu cryfder a diolch i’r bobl sydd wedi eu cadw i fynd.”
Gobaith y rhai sy’n codi arian yw y bydd y gân Nadolig yn ysbrydoli pobl i roi rhodd i Gardioleg Bediatrig yn Hywel Dda i wella’r gofal i gleifion ifanc ledled Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.
Bydd yr elw yn talu am eitemau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant craidd y GIG, a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau cleifion ifanc a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
“Ein gobaith yw y bydd y prosiect yma’n ein helpu i gefnogi plant a theuluoedd lleol y mae Clefyd Cynhenid y Galon yn effeithio arnynt, ac yn hybu ymwybyddiaeth am y cyflyrau a’r heriau sy’n eu hwynebu nhw,” meddai Siân.
I wrando ar ‘Pob Un Plentyn’, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=66lfhmA4D8c&list=RD66lfhmA4D8c&start_radio=1
I roi arian at yr achos, ewch i: https://www.justgiving.com/page/paediatric-cardiology-hyweldda