Neidio i'r prif gynnwy

Offer newydd a ariennir gan elusen yn helpu i fonitro coesau a thraed cleifion

Diolch i roddion caredig, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu Pecyn Pwysau Ffêr a Bysedd Traed Huntleigh gwerth £2,200 i'w ddefnyddio gan Dîm Nyrsio Ardal Gymunedol y Llan a'r Borth.

Bydd y pecyn yn cael ei ddefnyddio i asesu llif y gwaed yn y coesau a'r traed, gan gyfuno uned ddigidol, cyffiau a chwiliedydd i fesur pwysau ffêr a bysedd traed. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i gleifion â diabetes, clefyd fasgwlaidd, neu gyflyrau lymffatig.

Dywedodd Victoria Ashley, Arweinydd y Tîm: "Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r Pecyn Pwysau Ffêr a Bysedd Traed Huntleigh newydd.

"Mae'r pecyn hwn yn ein galluogi i wirio pa mor dda y mae gwaed yn llifo yn nhraed a bysedd traed claf ac yn helpu i adnabod problemau cylchrediad yn gynnar, a all atal problemau difrifol fel wlserau neu heintiau. Mae'n rhoi canlyniadau cywir hyd yn oed os yw'n anodd mesur rhydwelïau, ac mae'n ein cefnogi i gynllunio'r gofal gorau ar gyfer coesau a thraed y claf."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhrair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: