Neidio i'r prif gynnwy

Offer efelychu a ariennir gan elusen yn trawsnewid hyfforddiant y Bwrdd Iechyd

Yn y llun: Staff Hywel Dda yn darparu hyfforddiant i ddisgyblion ysgol gan ddefnyddio'r offer addysg newydd sy'n seiliedig ar efelychiad.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu cyllid o dros £56,000 ar gyfer offer addysg seiliedig ar efelychiad. Bydd yr offer newydd yn trawsnewid dysgu yn y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i ail-greu sefyllfaoedd go iawn i ddysgwyr.

Mae offer efelychu yn atgynhyrchu set benodol o amodau sy'n debyg i ddigwyddiadau bywyd go iawn. Mae'r offer yn creu amgylchedd diogel lle gall cyfranogwyr ddysgu o'u camgymeriadau heb unrhyw berygl i gleifion, gan alluogi unigolion i ddadansoddi ac ymateb i sefyllfaoedd realistig, gyda'r nod o ddatblygu neu wella eu gwybodaeth, sgiliau, ymddygiad ac agweddau.

Mae’r offer hefyd yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu â disgyblion ysgol lleol y gellir eu trwytho’n llwyr mewn efelychiadau wrth ddysgu gan staff am eu profiadau o weithio yn y GIG.

Mae’r cyllid wedi prynu offer sain a gweledol symudol, meddalwedd, a manicinau rhyngweithiol sy’n darparu cyfleoedd i greu sefyllfaoedd efelychiedig o fewn ystafelloedd hyfforddi neu leoliadau iechyd ar draws y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Pobl: “Rydym wrth ein bodd bod rhoddion elusennol hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r offer hwn.

“Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd yw bod yn arloeswr ym maes dysgu rhyngbroffesiynol i Gymru, gan ganiatáu i ddau broffesiwn neu fwy ddysgu gyda’i gilydd, sy’n annog cydweithio o fewn eu rolau o ddydd i ddydd ac yn gwella ansawdd gofal. Ystyrir bod efelychu yn sbardun sylweddol ar gyfer y math hwn o ddysgu.

“Bydd yr offer newydd yn ein galluogi i gynnal hyfforddiant efelychu rheolaidd, gan greu profiad dysgu llawer ehangach i’n staff. Bydd yn cefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau craidd ac annhechnegol sydd eu hangen ym mhob swydd gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, meddwl yn feirniadol, cydweithio a’r gallu i addasu.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: