Yn y llun uchod: Dai a Shirley gyda staff yr uned.
Trefnodd y brawd a chwaer Dai Bunyan a Shirley Morgan ddisgo, bwffe a raffl a chodi £1,935 ar gyfer yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yn Ysbyty Tywysog Philip.
Cynhaliwyd y noson elusennol ym mis Mai yng Ngwesty'r Thomas Arms yn Llanelli.
Trefnodd Dai, hyfforddwr personol yn Everlast Gym yn Llanelli a Shirley, aelod staff wedi ymddeol o'r tîm arlwyo yn Ysbyty Tywysog Philip, y digwyddiad er cof am eu brawd, Vincent Bunyan. Roedd Vincent yn glaf yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip a threfnwyd y digwyddiad codi arian fel diolch am y gofal gwych a gafodd yno.
Dywedodd Dai a Shirley: “Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad a roddodd mor hael, rydym wrth ein bodd gyda'r swm a godwyd. Dyma'r tro cyntaf i ni drefnu digwyddiad fel hyn, mae'n golygu llawer i ni godi arian er cof am ein brawd, Vincent, a gafodd ofal mor dda yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip.”
Dywedodd Rebecca Noot, Uwch Brif Nyrs, “Diolch yn fawr iawn i Dai a Shirley am yr holl waith a wnaethoch i drefnu'r digwyddiad hwn a chodi swm gwych o £1,935 ar gyfer yr Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae eich rhodd hael a charedig yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan bawb yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt.
“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eich caredigrwydd a'ch meddylgarwch. Byddwn yn gwneud defnydd da o'ch rhodd yma ar AMAU.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.