Neidio i'r prif gynnwy

Nintendo Switch yn ysgogi cleifion Dementia yn feddyliol

Yn y llun uchod: Cleifion a staff yn chwarae gyda'r Nintendo Switch.

 

Diolch i’r rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu Nintendo Switch newydd a gemau cysylltiedig gwerth dros £400 ar gyfer Ward Enlli, yr Uned Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Beccy Pateman, Rheolwr Ward: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Elusennau Iechyd Hywel Dda am ein helpu i ariannu Nintendo Switch a gemau ar gyfer yr uned.

“Bydd y pryniant hwn o fudd mawr i gleifion trwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu mwynhau gyda chyd-gleifion a staff, gan annog cystadleuaeth gyfeillgar, hwyl a chymdeithasu.

“Bydd yn helpu i adeiladu a chynnal perthnasoedd tra ar y ward. Gall gael dylanwad cadarnhaol, gan leihau diflastod wrth i gleifion gymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon, pleserus ac ysgogol yn feddyliol. Gall gemau fod yn ffordd wych o gadw pobl sy’n profi heriau iechyd meddwl a/neu sy’n byw gyda dementia yn ymgysylltu ac yn cael eu hysgogi’n feddyliol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: