Neidio i'r prif gynnwy

NFU Sir Gaerfyrddin yn cyfrannu dros £7,000 i Uned Cemotherapi Glangwili

Yn y llun uchod: Asiantau o NFU Sir Gaerfyrddin Ganolog gyda staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

Mae NFU Sir Gaerfyrddin Canolog wedi dewis yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn rhodd o £7,899.

Gwnaed y rhodd yn bosibl drwy Gronfa Rhoi Asiantaethau Cydfuddiannol NFU gyda swyddfeydd Sir Gaerfyrddin yn enwebu'r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn y rhodd.

Dywedodd Laura Tucker, Rheolwr yr Asiantaeth: “Ni yw asiantaeth leol cwmni yswiriant NFU Mutual.

“Mae NFU Mutual yn dyrannu pot o arian bob blwyddyn a gall pob asiantaeth ddewis elusen i roi cyfran iddi. Dewisom yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili gan eu bod wedi gofalu am ffrind gorau un o'n hasiantau yn ddiweddar.”

Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a'r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i  NFU Sir Gaerfyrddin am gefnogi'r uned, gan arwain at rodd hael iawn o £7,899.00.

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch yn fawr”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i NFU Caerfyrddin am enwebu’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn y rhodd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: