Neidio i'r prif gynnwy

NFU Llandeilo yn rhoi dros £7,000 i Uned Cemotherapi Glangwili

Yn y llun uchod: Asiantau o NFU Llandeilo gyda staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

Mae NFU Llandeilo wedi dewis yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn rhodd o £7,899.

Gwnaed y rhodd yn bosibl trwy Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual, gyda swyddfa Llandeilo yn enwebu'r uned i dderbyn y rhodd.

Dywedodd Angharad Davies, Rheolwr Swyddfa: “Mae arwyddocâd y gefnogaeth a ddarperir gan yr uned wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i ganser barhau i effeithio ar deuluoedd ar draws cymuned Llandeilo.

“Yn ystod ein hymweliad â’r uned, gwelsom yn uniongyrchol sut mae rhoddion elusennol yn gwella’r cyfleusterau sydd ar gael i gleifion sy’n cael triniaeth, yn ogystal â’r ffyrdd y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Jessica Michael, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i NFU Llandeilo am gefnogi’r uned, gan arwain at rodd hael iawn o £7,899.00.

“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella'r amgylchedd a'r ffordd yr ydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Hoffwn eich sicrhau y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch yn fawr”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i NFU Llandeilo am enwebu’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili i dderbyn y rhodd trwy Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: