Neidio i'r prif gynnwy

Monitor newydd wedi ei ariannu gan elusen yn caniatáu i staff y GIG olrhain cyflwr cleifion

Yn y llun: Staff o Uned Gofal Dwys Bronglais gyda'r monitor.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu monitor trosglwyddo Phillips MX450 gwerth dros £4,500 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Bronglais.

Mae monitor trosglwyddo yn ddyfais gludadwy a ddefnyddir i fonitro arwyddion hanfodol claf yn barhaus wrth symud rhwng adrannau ysbyty. Bydd y monitor newydd yn galluogi staff i olrhain cyflwr cleifion wrth iddynt symud drwy'r ysbyty.

Dywedodd Cerys Davies, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r monitor trosglwyddo Phillips MX450 newydd.

“Mae olrhain cyflwr cleifion wrth iddynt symud drwy'r ysbyty yn helpu i leihau risg glinigol. Efallai y bydd angen monitro pob claf sy'n cael ei nyrsio mewn Gofal Critigol ac sydd angen ei drosglwyddo o fewn yr ysbyty ar gyfer ymchwiliadau drwy'r monitor newydd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: