Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Nhŷ Glyn ddydd Gwener 7 Tachwedd 2025 o 6pm.
Dywedodd Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs Angharad Ward: “Fe benderfynon ni drefnu dawns elusennol yr hydref, raffl ac arwerthiant i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda.
“Rydym eisiau gwneud ein ward yn amgylchedd mwy deniadol i bawb sy’n cymryd rhan, y plant eu hunain, eu brodyr a chwiorydd, rhieni ac ymwelwyr. Does neb yn hoffi bod yn yr ysbyty neu orfod mynd i ysbyty, rydym eisiau gwneud y ward ychydig yn fwy deniadol.
“Ein gweledigaeth a’n nod yw ychwanegu sblash o liw ynghyd â darluniau drwy’r ward. Rydym am ddal meddyliau’r rhai sy’n treulio amser gyda ni, boed yn ychydig oriau, ychydig ddyddiau ac weithiau’n hirach.
“Rydym yn deall na allwch chi i gyd ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad ond os hoffech chi fod yn rhan o’n gweledigaeth i wneud Ward Angharad yn lle mwy hwyliog i fod, plis cyfrannwch i’n tudalen Just Giving.
“Bydd gennym docynnau raffl ar werth cyn ac ar y noson ynghyd ag arwerthiant elusennol. Bydd rhestr o’r eitemau arwerthiant ar gael yn nes at yr amser. Os bydd rhywbeth yn eich denu, mae croeso i chi gyflwyno bid wedi’i selio ar gyfer y rhain cyn y noson os na allwch fynychu.”
I brynu tocyn, ewch i:
https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScCHmoXE2Tn-MFGj8ZabIzn4FTe-rQd_BXvoWSpKxvlYVJsRw/viewform
Gallwch gyfrannu at y codwr arian yma:
https://www.justgiving.com/crowdfunding/angharadward-charityball-747?utm_medium=CR&utm_source=CL
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff Ward Angharad am drefnu digwyddiad mor wych.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”