Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Rachel Bran, Uwch Brif Nyrs; Stacey Mleczek, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Faye Jeena, Nyrs Staff; Sarah Garbutt, Nyrs Staff
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi prynu chwe pheiriant oeri croen y pen newydd a gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant pum mlynedd gysylltiedig gwerth dros £113,000. Mae'r peiriannau newydd i'w defnyddio yn yr Unedau Dydd Cemotherapi yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.
Mae oeri croen y pen yn cynnig cyfle i gleifion canser leihau'r golled gwallt a brofir yn ystod cemotherapi. Mae'r driniaeth yn gweithio trwy leihau tymheredd croen y pen ychydig raddau yn union cyn, yn ystod ac ar ôl cael cemotherapi. Mae hyn yn lleihau'r llif gwaed i ffoliglau gwallt, a all atal neu leihau colli gwallt.
Nid yw dyfeisiau oeri croen y pen yn cael eu hystyried yn driniaeth brif ffrwd ac felly mae’r offer a ariennir gan elusen yn darparu gwasanaeth ychwanegol i gleifion yn ardal Hywel Dda sydd y tu hwnt i’r hyn a ddarperir gan y GIG.
Dywedodd cyflwynydd S4C, Mari Grug (yn y llun), sydd wedi bod yn derbyn gofal a thriniaeth am ganser: “Mae gan ganser ffordd o dynnu popeth oddi arnoch chi, ond diolch i beiriant oeri croen y pen mae fy ngwallt yn rhywbeth sydd wedi aros, wel y rhan fwyaf ohono beth bynnag.
“Rwyf wedi bod yn defnyddio peiriant oeri croen y pen ers 2023 ac ar y dechrau collais lawer o wallt. Ond mae’r peiriant a ddiweddarwyd yn ddiweddar wedi bod yn fwy effeithlon ac effeithiol ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu ei ddefnyddio gyda fy nhriniaeth.”
Dywedodd Bry Phillips, Uwch Reolwr Nyrsio - Oncoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion caredig wedi ariannu’r offer oeri croen y pen newydd ar gyfer pedwar ysbyty acíwt Hywel Dda.
“Gall y posibilrwydd o golli gwallt achosi cryn bryder. Gall y cyfle i gadw gwallt yn ystod triniaeth roi cyfle i bobl gynnal ymdeimlad o breifatrwydd a theimlo'n debycach i'w hunan ar adeg anodd iawn.
“Ein nod yw ychwanegu gwerth at wasanaethau lleol y GIG trwy ddefnyddio ein rhoddion elusennol i helpu i wella profiad y rhai sy’n cael triniaeth a all fod yn llafurus.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i haelioni anhygoel ein cymunedau lleol, rydym yn gallu gwella gwasanaethau’r GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mewn ffyrdd na fyddai’n bosibl fel arall. Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am bob un a gawn.”